Floodplain meadows in Wales (Welsh)

Floodplain meadows in Wales (Welsh)

Ers 2023 rydym wedi bod yn datblygu perthnasoedd a gwybodaeth yn ymwneud â dolydd gorlifdir yng Nghymru. Rydym yn gweithio i archwilio ehangder hanesyddol a phresennol dolydd gorlifdir, pennu’r potensial ar gyfer adfer a chydweithio ag amrywiol grwpiau gyda’r nod o helpu datblygu ymchwil yn y dyfodol a phrosiectau adfer dolydd gorlifdir.

Mae’r prosiect wedi canolbwyntio’n bennaf ar dde-ddwyrain Cymru, Sir Gaerfyrddin a dalgylch Gwy gyda thri phrif amcan:
 

1. Cynyddu ein gwybodaeth

Ar hyn o bryd, dim ond 27 hectar (ha) o ddolydd gorlifdir sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau y mae ein rhestr yn ei ddangos, gyda 5 ha arall yn cael eu hadfer. Credwn fod yn rhaid bod mwy o safleoedd nad ydym yn ymwybodol ohonynt a byddem wrth ein bodd yn clywed gan unrhyw un sy'n rheoli dôl gyfoethog ei rywogaethau ar y gorlifdir neu sy'n ymwneud â phrosiectau adfer.

Rydym wedi bod yn ymchwilio i faint hanesyddol dolydd gorlifdir yn Afon Gwy Uchaf gan ddefnyddio dull a ddatblygwyd gan Fjordr, gan weithio gyda FMP yn Lloegr. Mae hyn wedi dangos bod dolydd gorlifdir yn helaeth yn yr ardal hon ar ddechrau’r 1800au. Gweler ein map gwe hanesyddol am ragor o wybodaeth Map o safleoedd hanesyddol | Partneriaeth Dolydd Gorlifdir. Mae'n debygol y bydd archwilio dalgylchoedd eraill yn datgelu patrwm defnydd tir tebyg ac rydym yn awyddus i wneud ymchwil tebyg mewn mannau eraill.
 

Map showing areas in the Wye catchment and south east Wales

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn anelu at fodelu potensial adfer dolydd gorlifdir yn Sir Gaerfyrddin, gan ddefnyddio dull sydd eisoes wedi’i dreialu yn Nalgylch Gwy a de-ddwyrain Cymru.

2. Adeiladu cysylltiadau

Rydym wedi bod yn cynnal cyfres o seminarau a sgyrsiau ar ddolydd gorlifdir i rannu ein hymchwil helaeth ar y cynefin prin hwn ac rydym yn adeiladu rhwydwaith o gydweithredwyr dolydd gorlifdir, gan gynnwys ffermwyr, grwpiau cymunedol, grwpiau dolydd, gweithwyr proffesiynol adfer afonydd ac eraill sy’n gweithio ar orlifdiroedd i rannu gwybodaeth, astudiaethau achos a phrofiadau.

3. Eiriolaeth

Rydym yn ehangu ein gwaith gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Llywodraeth Cynulliad Cymru a grwpiau yng Nghymru, i ddarparu tystiolaeth sy’n berthnasol i ddatblygu polisi a deddfwriaeth ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar ôl Brexit y disgwylir iddo ddechrau yn 2026. Bydd yr haenau Dewisol a Chydweithio yn arbennig o berthnasol ar gyfer camau gweithredu i reoli ac adfer dolydd gorlifdir.  Ochr yn ochr â darparu cyngor ymarferol, rydym wedi cyflwyno ein data i’r Panel Adolygu Tystiolaeth Atafaelu Carbon a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygu Cynllun Ffermio Cynaliadwy i Gymru.

Rydym hefyd yn gweithio gyda CNC, Plantlife a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar raglen bosibl ar gyfer glaswelltiroedd lled-naturiol yng Nghymru.

Mae cwmpas enfawr i flaenoriaethu glaswelltiroedd gorlifdir o fewn cynlluniau’r llywodraeth sy’n ceisio adfer bioamrywiaeth ac ansawdd dŵr ar hyd afonydd blaenoriaeth Cymru.

Y targedau gofodol a awgrymir i fwydo i Fapiau Rhwydwaith Natur a Rhwydweithiau Ecoleg â Blaenoriaeth (PENs) yw:

  1. 25% o orlifdir mewn dolydd mewnbwn isel (sy’n cyfateb i bron i 40,000 ha) o fewn 25 mlynedd – mae hyn yn seiliedig ar ein gwybodaeth am botensial a’r raddfa y credwn sydd ei hangen ar gyfer ymarferoldeb.
  2. 1,400ha o hwn i fod fel cynefin llawn rhywogaethau mewn Statws Cadwraeth Ffafriol – i ddarparu cynefinoedd gorlifdir o werth natur uchel ac i adfer systemau afonydd. 

Rydym yn chwilio am arian i barhau gyda'r gwaith hwn ac wrth gwrs, rydym yn parhau i gasglu gwybodaeth oddi wrth unigolion a grwpiau sydd â diddordeb. Os ydych chi’n gwybod am ddolydd gorlifdir sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau, neu brosiectau adfer ar orlifdir Cymru, yn rheolwr tir gorlifdir, clwstwr ffermio, grŵp dolydd neu sefydliad arall sydd â diddordeb mewn dolydd gorlifdir, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.  Cysylltwch â swyddog y prosiect Caroline O’Rourke ar caroline.orourke@open.ac.uk.

Yn ogystal, mae gennym Lysgennad Partneriaeth Dolydd Gorlifdir sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig yn gweithio'n benodol yn ardal De-orllewin Cymru, a all hefyd helpu https://floodplainmeadows.org.uk/about-us/who-we-are/ambassadors?field_ambassador_county_value% 5B%5D=De-Orllewin Cymru

Mae’r gwaith hyd yma wedi’i ariannu’n garedig gan The Moondance Foundation.

Rheolaeth ac Adfer

Gofalu am ddôl sy'n bodoli

Mae angen technegau rheoli penodol ar ddolydd gorlifdir llawn rhywogaethau. Gydag ardal mor fach yn weddill yng Nghymru a Lloegr mae rheolaeth briodol a'r gallu i adnabod a chywiro unrhyw faterion yn hanfodol i gadwraeth y cynefin gwerthfawr hwn.

Ceir rhagor o ganllawiau rheoli yma.

Tractor yn casglu byrnau gwair ar drelar

Creu neu adfer dôl

100 mlynedd yn ôl, defnyddiwyd y rhan fwyaf o orlifdiroedd afonydd fel dolydd, a chydag ychydig o waith, gellir trosi’r rhan fwyaf yn ddolydd llawn blodau nawr.

I ddarganfod a all eich tir gynnal dôl sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau, bydd angen i chi wybod y math o bridd, ei ffrwythlondeb a’i system ddŵr. Mae hyn oherwydd bod y system pridd-dŵr, topograffeg a ffrwythlondeb yn pennu lle bydd gwahanol gymunedau planhigion yn tyfu.  Mae sawl dull gwahanol o greu ac adfer dolydd a bydd y dull gorau yn dibynnu ar yr amodau presennol ar eich safle.

Ceir canllawiau pellach ar adfer a chreu dolydd gorlifdir yma

Gwair gwyrdd yn ymledu mewn cae